Expire in: a month
Pennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth - rhwng £74,460 ac £80,072
Cymru (hybrid)
Y cyfle
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth wraidd y gwaith o sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio'n gynaliadwy fel y gall cenedlaethau'r dyfodol elwa ohonynt.
Os ydych chi eisiau gwneud defnydd da o'ch sgiliau arweinyddiaeth wyddonol a chymryd rhan mewn prosiectau cyffrous sy'n effeithio ar fywydau pawb yma yng Nghymru, rydym ni eisiau clywed gennych chi!
Mae'r ffaith ein bod yn cynnig gweithio ystwyth, gweithio hyblyg a gweithio o bell, ynghyd â lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, datblygiad proffesiynol parhaus, ac ystod eang o fuddion iechyd a llesiant, yn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fod yn gyflogwr delfrydol i geiswyr gwaith ledled Cymru a thu hwnt.
Mae CNC yn frwdfrydig dros greu gweithlu amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu cyfle cyfartal heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhywedd a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant, neu grefydd. Rydym yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Mae CNC wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn gwarantu cyfweliadau i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae Yolk Recruitment yn gweithio mewn partneriaeth ag CNC i ddod o hyd i arweinwyr ysbrydoledig o safon uchel o bob cwr o Gymru. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda nhw i recriwtio Pennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth.
Y rôl
Mae CNC yn gwneud penderfyniadau cymhleth a hynod ddiddorol yn barhaus sy'n integreiddio ystyriaethau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol wrth fynd ar drywydd eu hamcan craidd o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Maent yn chwilio am arweinydd i redeg yr adran sy'n eu galluogi i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u tystiolaeth i wneud penderfyniadau da, gwerthuso'r penderfyniadau hynny, dysgu o'r effaith sydd ganddynt ac addasu iddynt, a rhoi gwybod i unigolion am yr hyn maent yn ei ddysgu. Fel Pennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth, byddwch yn arwain tîm o tua 90 o arbenigwyr, gan oruchwylio dadansoddi data, gwasanaethau labordai a rhaglenni monitro integredig ar draws amgylcheddau morol, dŵr croyw a daearol.
Byddwch yn arwain y strategaeth dystiolaeth i lywio eu darpariaeth weithredol, eu polisi a'u cynllunio hirdymor. O wyddoniaeth amgylcheddol i ymchwil gymdeithasol ac ystadegau, bydd eich gwaith yn ategu ymrwymiad CNC i rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y Tîm Arwain, gan gefnogi cyflawniad a newid ar gyfer y sefydliad cyfan. Byddwch yn gweithio gyda rolau uwch yn Llywodraeth Cymru i gynghori penderfynwyr a dylanwadu ar bartneriaid allweddol ledled Cymru a'r DU ac yn rhyngwladol.
Gofynion
Cymhwyster ar lefel gradd neu brofiad cyfwerth mewn maes perthnasol.
Profiad amlwg mewn rolau arweinyddiaeth uwch, gan gynnwys datblygu strategaeth a dylanwadu ar randdeiliaid ar draws sectorau.
Sgiliau cyfathrebu cryf gyda'r gallu i ddylanwadu ac ymgysylltu ar draws ystod eang o gynulleidfaoedd.
Rhinweddau arweinyddiaeth ysbrydoledig gyda phwyslais ar alluogi a grymuso timau.
Galluoedd barnu a gwneud penderfyniadau rhagorol, gyda hanes blaenorol o lwyddo a dysgu o brofiad.
Y gallu i reoli rhaglenni cymhleth a throsi tystiolaeth yn fewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt.
Mae sgiliau Cymraeg ar lefel A1 yn hanfodol, gyda B2 yn ddymunol (gellir darparu hyfforddiant).
Ymrwymiad i gydraddoldeb, datblygiad personol a llesiant eich tîm.Gwobrau
Ar wahân i weithio ar brosiectau ystyrlon sy'n cael effaith gadarnhaol ar bobl Cymru, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y rôl Pennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth hon yn cael ei wobrwyo â'r canlynol:
Cyflog sydd rhwng £74,460 ac £80,072 y flwyddyn
Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
Amrywiaeth o batrymau gweithio
28 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynyddu'n flynyddol i 33 diwrnod)
Datblygiad proffesiynol parhaus sy'n amrywio o gyrsiau ymarferol i gyrsiau addysg bellach a chyrsiau addysg uwch
Manteision o ran teithio llesol a theithio cynaliadwy fel y cynllun Beicio i'r Gwaith a benthyciadau tocyn tymor
Talu ffioedd aelodaeth proffesiynol sy'n berthnasol i'ch rôl
Ydych chi'n meddwl bod y swydd hon yn berffaith i chi?
Cysylltwch â Branwen Johns yn Yolk Recruitment, a all roi'r pecyn ymgeiswyr llawn i chi. Anfonwch CV a datganiad ategol yn manylu ar sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl (uchafswm o 800 gair) at
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar 2 Mehefin 2025.
Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd ar 19 a 20 Mai 2025.
Yolk Recruitment yw partner recriwtio unigryw CNC ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk Recruitment, gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw CNC ei hun
Do not include the following in your job application, CV, or cover letter:
You should not be asked for payment or irrelevant information. If you have concerns about a job advert or employer, seek guidance on how to proceed.
Looking for your next career move? Join a top company hiring Pennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth job near me in Cardiff! This is your chance to work on exciting projects, grow professionally, and enjoy a rewarding career with competitive pay and excellent benefits. Whether you're an experienced professional or looking to take the next step, this role offers the perfect opportunity to enhance your skills and make an impact. Don’t miss out—apply today via Vita CV and take your career to the next level!
© Vita CV: Registered in England and Wales (16187919).
Vita CV uses cookies to enhance your experience, analyze site traffic, and personalize content. By continuing to browse, you agree to our use of cookies.