Expire in: a month
Hyd at 2 benodiad | £309.75 y dydd | 2-3 diwrnod y mis | Caerdydd / Merthyr Tudful
Mae Yolk Recruitment wedi'i benodi'n Bartner Chwilio Gweithredol i Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y penodiad pwysig hwn i'r Bwrdd.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn dechrau pennod newydd gyffrous, ac rydym yn chwilio am hyd at ddau Aelod Anweithredol o'r Bwrdd i helpu i lunio ei ddyfodol.
Ers ei sefydlu yn 2018, mae ACC wedi casglu mwy na £2.7 biliwn mewn Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi, gan godi refeniw hanfodol sy'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn uniongyrchol.
Nawr, wrth i'w gyfrifoldebau ehangu i gynnwys y Gofrestr Genedlaethol ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr a gweithredu Ardoll Ymwelwyr, mae'r sefydliad yn esblygu i fod yn sefydliad ehangach sy'n seiliedig ar wasanaethau.
Gwybodaeth am ACC
Mae ACC yn adran Anweinidogol o Lywodraeth Cymru, sy'n gwneud penderfyniadau gweithredol yn annibynnol tra'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, trethdalwyr, busnesau a phartneriaid ledled Cymru.
Mae'r sefydliad yn rhoi ei gwsmeriaid wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud ac mae wedi ymrwymo i fod yn sefydliad arloesol, cydweithredol a charedig.
Mae ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2025hyd 2028 yn nodi 3 blaenoriaeth strategol:
Hawdd - ei gwneud yn hawdd i bobl wneud y peth iawn
Teg - bod yn deg ac yn gyson wrth ddarparu gwasanaethau
Cynaliadwy - adeiladu sefydliad cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodolY cyfle
Fel Aelod Anweithredol o'r Bwrdd, bydd gennych rôl bwysig o ran darparu arweinyddiaeth strategol, her adeiladol a sicrwydd wrth i ACC ddatblygu.
Gan weithio ar y cyd â'r Cadeirydd, y Prif Weithredwr, yr Aelodau Gweithredol a'ch cyd-Swyddogion Anweithredol, byddwch yn:
darparu arweinyddiaeth, gweledigaeth a chyfeiriad strategol
craffu ar berfformiad a cheisio sicrwydd bod amcanion sefydliadol yn cael eu cyflawni
cefnogi a herio tîm arwain ACC mewn modd adeiladol
darparu cymorth trwy gyfnodau o newid sefydliadol
dod â phersbectif allanol a sganio'r gorwel am risgiau a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg
herio'n agored ac yn adeiladol, gydag uniondeb ac annibyniaeth
cyfrannu at ddiwylliant Bwrdd cadarnhaol a chynhwysol
datblygu perthnasoedd cryf gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ehangach
helpu i sicrhau bod ACC yn parhau i weithredu gyda llywodraethiant cryf, rheoli risg effeithiol a sicrwydd priodolPwy ydym yn chwilio amdano?
Rydym yn awyddus i glywed gan bobl sydd â phrofiad neu fewnwelediad mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol:
trawsnewid digidol, seiberddiogelwch neu AI
y dirwedd wleidyddol yng Nghymru
ttwristiaeth
tirwedd dreth y DUDoes dim angen i chi fod â phrofiad Bwrdd blaenorol i wneud cais.
Mae gan ACC ddiddordeb arbennig mewn clywed gan unigolion sy'n gweithredu ar lefel strategol sy'n awyddus i ddod â'u profiad i amgylchedd Bwrdd Anweithredol am y tro cyntaf.
Bydd angen i chi arddangos:
meddwl strategol a'r gallu i adnabod risgiau a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg
y gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth ariannol a rheoli gymhleth
profiad cadarn o lywodraethu, rheoli risg, archwilio neu sicrwydd
yr hyder i herio'n adeiladol
sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf
y gallu i ddatblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol ac effeithiol
y safonau uchaf o onestrwydd personol
ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
ymrwymiad i werthoedd ACC o arloesi, cydweithredu a charedigrwyddMae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond ddim yn hanfodol. Mae ACC wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad cynyddol ddwyieithog ac yn cefnogi ei phobl, gan gynnwys Aelodau'r Bwrdd, i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Pam ymuno â Bwrdd ACC?
Byddwch yn ymuno â sefydliad sydd â phwrpas cyhoeddus clir ar adeg arwyddocaol yn ei esblygiad, gan helpu i lunio sut mae'n datblygu ei wasanaethau, yn ymateb i gyfleoedd newydd ac yn parhau i adeiladu ymddiriedaeth ymhlith y bobl a'r sefydliadau y mae'n eu gwasanaethu.
Mae ACC yn sefydliad cymharol fach gyda diwylliant cryf o gydweithio, arloesi ac o fod yn agored. Mae gan ei Fwrdd rôl bwysig nid yn unig o ran llywodraethiant a sicrwydd, ond hefyd wrth lunio diwylliant a chyfeiriad strategol y sefydliad.
I'r rhai hynny sy'n ystyried eu penodiad cyntaf i Fwrdd, rhoddir cyfnod sefydlu llawn a chymorth datblygu parhaus.
Manylion y penodiad
Hyd at 4 blynedd (penodiad cychwynnol)
2-3 diwrnod y mis, gyda hyblygrwydd lle bo'n bosibl
£309.75 y dydd, pro rata
Cymysgedd o gyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb, fel arfer yng Nghaerdydd a Merthyr Tudful
Sut i wneud cais
Gwneir ceisiadau drwy system Benodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru a dylent gynnwys CV a datganiad personol o ddim mwy na dwy dudalen A4.
Dylai eich datganiad personol ddangos yn glir sut mae eich profiad yn bodloni'r meini prawf hanfodol, gan ddefnyddio enghreifftiau penodol ac amlinellu eich cyfraniad unigol a'r canlyniadau a gyflawnwyd.
Dyddiad Cau: 6 Medi 2026 am 4pm
Asesiad a chyfweliad: 21 a 23 Hydref 2026
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy?
Mae Yolk Recruitment wedi'i benodi'n Bartner Chwilio Gweithredol ar gyfer y penodiad hwn.
Os ydych yn ystyried eich penodiad Anweithredol cyntaf, neu os oes gennych eisoes brofiad Bwrdd a'ch bod yn chwilio am gyfle i wneud cyfraniad gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, byddem yn hapus iawn i gael sgwrs gyfrinachol â chi.
Am drafodaeth anffurfiol a chyfrinachol am y rôl neu'r broses benodi, cysylltwch â: Hannah Welfoot yn Yolk RecruitmentDo not include the following in your job application, CV, or cover letter:
You should not be asked for payment or irrelevant information. If you have concerns about a job advert or employer, seek guidance on how to proceed.
Looking for your next career move? Join a top company hiring Aelod Anweithredol o'r Bwrdd job near me in Cardiff! This is your chance to work on exciting projects, grow professionally, and enjoy a rewarding career with competitive pay and excellent benefits. Whether you're an experienced professional or looking to take the next step, this role offers the perfect opportunity to enhance your skills and make an impact. Don’t miss out—apply today via Vita CV and take your career to the next level!
© Vita CV: Registered in England and Wales (16187919).
Vita CV uses cookies to enhance your experience, analyze site traffic, and personalize content. By continuing to browse, you agree to our use of cookies.